Offerynnau Statudol gydag Adroddiadau Clir

26 Chwefror 2018

SL(5)185 –

Gweithdrefn: Negyddol

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) (O.S. 2017/113 (Cy. 39)) yn darparu ar gyfer cynnwys hysbysiadau galw am dalu ardrethi annomestig sy'n cael eu gwasanaethu gan neu ar ran awdurdodau bilio yng Nghymru. Mae Atodlen 2 i Reoliadau 2017 yn nodi'r wybodaeth sy'n rhaid ei chynnwys yn y nodiadau esboniadol sy'n rhaid cyd-fynd â'r hysbysiad galw am dalu, sy'n cynnwys gwybodaeth am y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sy'n gymwys yng Nghymru.

Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 (“Gorchymyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach 2017”) (O.S. 2017/1229 (Cy. 293)) yn cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach newydd yng Nghymru o 1 Ebrill 2018. Mae'r Rheoliadau yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 2017 fel bod y wybodaeth a ddarparwyd yn y nodiadau esboniadol sy'n cyd-fynd â'r hysbysiadau galw am dalu a roddwyd mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018, yn cyfeirio at Orchymyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach 2017.

Deddf Wreiddiol: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988

Fe’u gwnaed ar: 31 Ionawr 2018

Fe’u gosodwyd ar: 2 Chwefror 2018

Dyddiad dod i rym: 23 Chwefror 2018

SL(5)X186 – Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”). 

Mae Rhan 3 o Reoliadau 2015 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ynghylch lleoli plant sy'n derbyn gofal, gyda rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth benodol mewn perthynas â lleoliadau y tu allan i'r ardal.

Mae Rheoliad 2 y Rheoliadau hyn yn ychwanegu at y wybodaeth y mae'n rhaid i'r awdurdod cyfrifol eu hysbysu i'r awdurdod lleol y tu allan i'r ardal neu'r awdurdod lleol yn Lloegr y mae'r plentyn wedi'i leoli o dan reoliad 12(8) Rheoliadau 2015, ac sy'n rhaid ei ddarparu o fewn 24 awr ar ôl gwneud y lleoliad.

Deddf Wreiddiol: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014

Fe’u gwnaed ar: 29 Ionawr 2018

Fe’u gosodwyd ar: 2 Chwefror 2018

Dyddiad dod i rym: 2 Ebrill 2018

SL(5)183 – Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau Llety Diogel”).

Pwrpas y diwygiad i'r diffiniad “llety diogel” yn rheoliad 2 y Rheoliadau Llety Diogel i gynnwys llety diogel yn yr Alban yw fel bod lleoli plentyn gan awdurdod lleol yng Nghymru mewn llety diogel yn yr Alban yn ddarostyngedig i'r un mesurau diogelwch sy'n gymwys i leoliadau yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r diwygiad i baragraff (5) o reoliad 1 o ganlyniad i ddod â Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) i rym. Caiff gwasanaethau llety diogel yng Nghymru eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2016 o 2 Ebrill 2018.

Mae'r diwygiad i reoliad 4 yn ei gwneud yn glir pwy sy'n gallu gwneud cais am orchymyn llety diogel mewn achosion nad ydynt yn cynnwys plant sy'n derbyn gofal fel y darparwyd ar eu cyfer o dan reoliad 16.

Mae'r diwygiadau i reoliadau 6 a 7 yn egluro bod y cyfnodau hiraf a bennir yn y ddau reoliad hynny yn berthnasol i orchymyn llys a wneir mewn perthynas â llety diogel yng Nghymru.

Mae'r diwygiad i reoliad 8 o ganlyniad i ddiwygio diffiniad “llety diogel” yn rheoliad 1 ac yn egluro bod y cyfyngiad yn gymwys mewn perthynas â lleoli plant sy'n derbyn gofal.

Gwneir rheoliadau 9 a 12 o dan y pŵer a roddwyd gan adran 27 o Ddeddf 2016.

Mae'r diwygiad i reoliad 15 yn egluro sut mae'r ddarpariaeth yn gweithio ar gyfer lleoliadau gan awdurdodau lleol yn Lloegr i lety diogel yng Nghymru. 

Deddfau gwreiddiol: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Fe’u gwnaed ar: Heb ei nodi

Fe’u gosodwyd ar: Heb ei nodi

Dyddiad dod i rym: 2 Ebrill 2018